We Are Black and British yn ennill yng Ngwobrau Grierson

31/01/2023

Mae Cardiff Productions yn falch iawn o fod wedi ennill gwobr Grierson – un o’r gwobrau
uchaf eu parch o fewn y maes rhaglenni dogfen ym Mhrydain. Mae ein cyfres lwyddiannus,
We Are Black and British, wedi derbyn cryn glod drwy gydol y flwyddyn, ar ôl cael ei
henwebu am Wobr Broadcast yn ogystal â Prix Europa.

Yn y gyfres hon, daw chwech o Brydeinwyr du at ei gilydd o dan yr un to – mewn tŷ yn y
wlad mewn pentref bach Prydeinig. Maen nhw’n byw gyda’i gilydd am ddeg diwrnod, yn
rhannu straeon hynod bersonol ac yn mynd i’r afael â rhai o’r materion mawr sy’n wynebu
cymunedau du ym Mhrydain.

Wedi’i ddisgrifio yn The Guardian fel “the most intelligent reality TV show in recent memory”,
mae’r gyfres hon yn teimlo’n wirioneddol ffres mewn sawl ffordd. Fe dorrodd y mowld
traddodiadol o ran fformat; cododd bynciau tabŵ hollbwysig; a rhoddodd gyfle i arddangos
amrywiaeth o leisiau o fewn cymunedau du sydd braidd byth yn cael eu clywed ar deledu –
o'r chwith yr holl ffordd i'r dde.

“Tears, arguments and deeply human conversations about race: this moving, uplifting show
sees Black Britons debate the UK’s problems – and it’s a masterclass in empathy.”- The
Guardian.

Mae We Are Black and British dal ar gael i’w gwylio ar iPlayer.

We make modern, groundbreaking documentaries; innovative specialist factual series; entertaining returnable formats; ambitious scripted shows; and compelling, creative digital projects. Our mission is to produce bold, popular and diverse content.

Rydym yn cynhyrchu dogfennau modern a blaengar; cyfresi gwir amrywiol arbenning; fformatau adloniant sy’n dychwel; sioeau sgriptedig uchelgeisiol; a phrosiectau digidol cyffrous a chreadigol. Ein cenhadaeth yw cynhyrchu cynnwys beiddgar, poblogaidd ac amrywiol.