Mae Cardiff Productions yn gwmni cynhyrchu wedi’i leoli yng nghanol prifddinas Cymru.
Rydyn ni’n gwneud rhaglenni dogfen modern sy’n torri tir newydd; cyfresi ffeithiol arbenigol arloesol; fformatau difyr i’w hailadrodd; rhaglenni uchelgeisiol wedi’u sgriptio; a phrosiectau digidol creadigol sy’n cymell. Ein cenhadaeth yw cynhyrchu cynnwys beiddgar, poblogaidd ac amrywiol.
Beiddgar
Mae ein prosiectau’n rhai swnllyd wrth natur, dydyn nhw byth yn methu â gofyn y cwestiynau caled, ond ar yr un pryd maen nhw’n chwareus gyda’r testun.
Maen nhw’n amserol ac yn gyfredol, ond bob amser yn dod ag emosiwn, hiwmor a drama i’r wyneb. Rydyn ni’n ymdrechu i fod yn wreiddiol, ac mae ein cynnwys (Teledu a Digidol) yn asio dawn weledol gyda chreadigrwydd wrth ddweud stori.
Amrywiol
Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau amrywiaeth yn ei ystyr ehangaf – gall hynny olygu meithrin talent o ystod eang o gefndiroedd ar y sgrin ac oddi arni; ymdrin â phynciau amrywiol yn ein ffilmiau a’n prosiectau; neu ddefnyddio’n cynnwys i annog amrywiaeth meddwl o ran y materion sy’n effeithio ar gymdeithas ehangach.
Poblogaidd
Rydyn ni’n ymfalchïo mewn creu rhaglenni sy’n boblogaidd ac sy ddim yn ymddiheuro am hynny.
Mae ein ffilmiau a’n prosiectau digidol yn apelio at ddemograffeg eang, ac yn denu gwylwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a’r byd. Efallai ein bod yn ymdrin â phynciau heriol, ond ein prif genhadaeth bob amser yw lledaenu gwybodaeth a diddanu’r gynulleidfa ehangaf bosib.
Yn Gweithio Gyda
“Intensely personal and wide-ranging, this was a fascinating, tender and moving insight into the real pain that colourism can cause”
iNews, on Tan France: Beauty and the Bleach