Newidiadau ymhlith uwch reolwyr Cardiff Productions i gefnogi twf strategol

24/07/2022

Mae’r cwmni cynhyrchu blaenllaw yn y Cenhedloedd, Cardiff Productions, wedi cadarnhau
newid i strwythur yr uwch dîm reoli i gefnogi twf strategol y busnes.

Bydd Narinder Minhas, cyd-sylfaenydd a chyd-reolwr gyfarwyddwr yn cymryd yr awenau
dros arwain y cwmni, i fod yn Brif Swyddog Gweithredol. Mae ei gyd-sylfaenydd, Pat
Younge, yn symud o fod yn gyd-reolwr gyfarwyddwr i Gyfarwyddwr Anweithredol, i
ganolbwyntio ar strategaeth y cwmni tra’n datblygu ei bortffolio cynyddol o ymrwymiadau
allanol.

Dywedodd Narinder Minhas: “Mae gennym dîm hynod o dalentog yng Nghymru ac rydyn ni
wedi profi twf sylweddol yn ddiweddar, gyda diddordeb mawr yn ein ffordd o gynhyrchu
rhaglenni beiddgar ac amrywiol. Dyma’r amser perffaith i ni ganolbwyntio ar ddatblygiad
strategol y cwmni. Bydd Pat yn defnyddio ei brofiad a’i ddealltwriaeth i helpu i siapio
strategaeth y cwmni, ac rwy'n gyffrous i fod yn gweithio gydag e yn y rôl newydd hon.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag at y cam naturiol hwn ers peth amser, gan ein bod ni
wastad wedi gwybod y byddai Pat yn ehangu ei bortffolio o ddiddordebau y tu allan i’w
cwmni.”

Ychwanegodd Pat Younge:

“Rydyn ni’n rhan o ddiwydiant cynnwys byd-eang llewyrchus ac rydw i’n gyffrous o fod yn
helpu Cardiff Productions i ehangu ei orwelion, ac ar yr un pryd, yn ehangu fy rhai innau
hefyd gydag ystod gynyddol o brosiectau cydweithredol allanol sy’n digwydd nawr ac yn y
dyfodol. Narinder yw sbardun creadigol y cwmni ers peth amser, felly rwyf wrth fy modd bod
y cyhoeddiad hwn yn gwneud ein rolau newydd yn swyddogol. Mae Cardiff Productions yn
cynhyrchu rhaglenni sy’n wirioneddol arloesol ac yn feiddgar, mae’r elfen ddatblygu’n gryf ac
mae’r tîm ar dân yn greadigol.

Rwy’n gyffrous y gallaf barhau i gyfrannu at lwyddiant y cwmni yn y rôl newydd hon.”
Gallwch ddarllen mwy fan hyn: C21 Media

We make modern, groundbreaking documentaries; innovative specialist factual series; entertaining returnable formats; ambitious scripted shows; and compelling, creative digital projects. Our mission is to produce bold, popular and diverse content.

Rydym yn cynhyrchu dogfennau modern a blaengar; cyfresi gwir amrywiol arbenning; fformatau adloniant sy’n dychwel; sioeau sgriptedig uchelgeisiol; a phrosiectau digidol cyffrous a chreadigol. Ein cenhadaeth yw cynhyrchu cynnwys beiddgar, poblogaidd ac amrywiol.