Netflix yn prynu Tan France: Beauty and the Bleach

20/07/2022

Rydyn ni wrth ein bodd bod Netflix wedi prynu Tan France: Beauty and the Bleach gan
Cardiff Productions.

Yn y ffilm hon, mae seren ‘Queer Eye’ Tan France yn bwrw ati i ddatgelu’r gwir am liwiaeth
neu “colourism” – lle rydych chi’n cael eich barnu nid yn unig oherwydd lliw eich croen, ond
yr arlliw (shade) hefyd – a’i effaith ar bobl ar draws y byd.

Pan oedd yn naw oed, fe wnaeth Tan rywbeth y mae wedi’i ddifaru ar hyd ei oes. Cymerodd
ychydig o hufen i oleuo’r croen, a dechreuodd ddiliwio ei groen ei hun. Mae’r duedd hon yn
bodoli mewn cymunedau du, Asiaidd a Dwyrain Canol ledled y DU a thu hwnt. Mae'n
ymestyn i bob cornel o’r byd, lle mae croen golau mewn ffasiwn, a chroen tywyll yn cael ei
ystyried yn annymunol.

Yn y daith bersonol hon, mae Tan yn tyrchu i wreiddiau’r broses o ddiliwio ei groen a
lliwiaeth a’r effaith y maen nhw’n ei chael ar fywydau pobl heddiw. Mae'n siarad â phawb o
eiconau pop fel Kelly Rowland (o ‘Destiny’s Child’), a gafodd ei chymaru unwaith â lliw bag
papur brown gan fam-gu ei chariad, i bobl gyffredin o Brydain sydd, yn llythrennol, wedi
plicio eu croen eu hunain mewn ymgais i fod yn oleuach.

Mae’r ffilm ar gael i’w gwylio ar iPlayer a Netflix.

We make modern, groundbreaking documentaries; innovative specialist factual series; entertaining returnable formats; ambitious scripted shows; and compelling, creative digital projects. Our mission is to produce bold, popular and diverse content.

Rydym yn cynhyrchu dogfennau modern a blaengar; cyfresi gwir amrywiol arbenning; fformatau adloniant sy’n dychwel; sioeau sgriptedig uchelgeisiol; a phrosiectau digidol cyffrous a chreadigol. Ein cenhadaeth yw cynhyrchu cynnwys beiddgar, poblogaidd ac amrywiol.