Mae fformat cyfres y BBC Take a Hike wedi’i brynu yn Ffrainc, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd,
Gwlad Belg ac Israel. Yn y sioe ffeithiol boblogaidd gan Cardiff Productions, mae pedwar
cerddwr brwd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ym mhob pennod gyda’r hoff daith gerdded yn
ennill.
Cafodd y gyfres ei chyflwyno gan y digrifwr Rhod Gilbert yn y DU, lle dechreuodd ar y sianel
Gymraeg S4C cyn cael ei hail-fersiynu ar gyfer BBC Two. Hat Trick International oedd yn
gyfrifol am y gwerthiant.
“Mae Take A Hike yn dilyn model gwych: cafodd ei ddatblygu i ddarlledwr Cymraeg, ei droi’n
fformat Saesneg, ac yna ei werthu’n rhyngwladol,” dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cardiff
Productions Narinder Minhas.
Darllenwch erthygl cylchgrawn Broadcast fan hyn.
Twitter:
We make modern, groundbreaking documentaries; innovative specialist factual series; entertaining returnable formats; ambitious scripted shows; and compelling, creative digital projects. Our mission is to produce bold, popular and diverse content.
Rydym yn cynhyrchu dogfennau modern a blaengar; cyfresi gwir amrywiol arbenning; fformatau adloniant sy’n dychwel; sioeau sgriptedig uchelgeisiol; a phrosiectau digidol cyffrous a chreadigol. Ein cenhadaeth yw cynhyrchu cynnwys beiddgar, poblogaidd ac amrywiol.