Channel 4 yn comisiynu chwe phennod arall o’r sioe sgwrsio gyfoes hwyr y nos Unapologetic

01/05/2022

Mae Channel 4 wedi ychwanegu Unapologetic at ei rhestr o gomisiynau sydd wedi deillio’n
uniongyrchol o The Black to Front Project, sydd wedi ennill gwobrau.

Ar y diwrnod hwnnw ym mis Medi y llynedd, fe dorrodd Channel 4 dir newydd wrth
ddefnyddio talent Du i gyflwyno’r holl raglenni yn yr amserlen a chyfranwyr ar draws pob
genre a hysbysebion, gyda’r nod o gryfhau lleisiau Du ar deledu i adlewyrchu diwylliant
amrywiol a bywiog y DU.

Zeze Millz a Yinka Bokinni, yn y llun uchod o'r chwith i'r dde, fydd yn cyflwyno chwe phennod
ychwanegol o’r sioe sgwrsio hwyr y nos Unapologetic (cynhyrchwyd gan SBTV a Cardiff
Productions). Cafodd ei hail-gomisiynu ar ôl ei hymddangosiad llwyddiannus yn ystod The
Black To Front Project.

Gweler yr erthygl lawn

We make modern, groundbreaking documentaries; innovative specialist factual series; entertaining returnable formats; ambitious scripted shows; and compelling, creative digital projects. Our mission is to produce bold, popular and diverse content.

Rydym yn cynhyrchu dogfennau modern a blaengar; cyfresi gwir amrywiol arbenning; fformatau adloniant sy’n dychwel; sioeau sgriptedig uchelgeisiol; a phrosiectau digidol cyffrous a chreadigol. Ein cenhadaeth yw cynhyrchu cynnwys beiddgar, poblogaidd ac amrywiol.